Select your preferred font size:

Cynghrair Strategol yn argoeli’n dda ar gyfer addysg ôl-16 yn RhCT

Bydd cyfleoedd dysgu newydd yn cael eu creu ar gyfer myfyrwyr ôl-16 yn Rhondda Cynon Tâf diolch i gynghrair strategol rhwng Coleg Morgannwg, Ysgol Uwchradd Gatholig Cardinal Newman a Choleg Catholig Dewi Sant.

Mae’r bartneriaeth newydd gyffrous hon yn unol ag agenda Llywodraeth Cymru ar gyfer gweddnewid addysg ôl-16 a hyfforddiant yng Nghymru. Lleolir y ganolfan gydweithrediadol ar gyfer addysg ôl-16 yn Nantgarw ar gampws newydd Coleg Morgannwg gwerth £40 miliwn.

Bydd y bartneriaeth yn cyflenwi’r addysg orau bosibl i ddysgwyr o bob cefndir gyda dewis o dros 24 o bynciau Lefel A o fis Medi 2012, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru, gwell cyfleusterau a gofal bugeiliol rhagorol.

Dywedodd Judith Evans, Pennaeth Coleg Morgannwg: “Mae hon yn bartneriaeth arloesol, gyffrous a fydd yn darparu cyfleoedd ardderchog ar gyfer dysgwyr yn RhCT. Bydd y dysgwyr yn cael y fantais ychwanegol o gael eu haddysgu mewn adeilad newydd sbon o’r radd flaenaf gyda’r bartneriaeth yn benderfynol o ddarparu’r gorau ar gyfer yr ardal y mae’r tri sefydliad yn eu gwasanaethu, a phob un yn cyfrannu ei arbenigedd ei hun.”

Bydd y bartneriaeth newydd yn gwasanaethu dysgwyr o’r gymuned ehangach, tra bydd presenoldeb Ysgol Uwchradd Gatholig Cardinal Newman a Choleg Catholig Dewi Sant yn sicrhau bod yr ethos Catholig yn cael ei chynnal ar gyfer y myfyrwyr hynny sy’n dymuno parhau i astudio o fewn ethos ffydd.

Dywedodd Justin O'Sullivan, Prifathro Ysgol Gyfun Gatholig Cardinal Newman ym Mhontypridd: "Mae’r bartneriaeth newydd hon yn gyffrous iawn. Mae ein dalgylch yn un eang yn gwasanaethu’r ardal i’r gogledd o Gaerdydd gan gynnwys Llantrisant yn y gorllewin ac yn ymestyn i Gaerffili yn y dwyrain a thu hwnt i Dreorci yn y gogledd. Mae Ysgol Cardinal Newman yn falch iawn o gael chwarae rhan mor gyflawn wrth geisio sicrhau addysg ôl-16 ar gyfer pobl yr ardal hon.”

Bydd y cydweithrediad, drwy Goleg Morgannwg, yn cynnwys y tri sefydliad partner yn cydweithio’n agos gyda’i gilydd gyda staff profiadol yn cyflenwi cyfran sylweddol o’r cwricwlwm yn y ganolfan Lefel A newydd.

Hefyd, caiff myfyrwyr y cyfle i astudio ar gyfer Cymhwyster Bagloriaeth Cymru yn ogystal â phrofiad o ystod o weithgareddau all-gyrsiol, yn chwaraeon, yn rhai diwylliannol, creadigol ac entrepreneuraidd.

Ychwanegodd Mark Leighfield, Pennaeth Coleg Dewi Sant ym Mhenylan, Caerdydd: “Mae’r gynghrair strategol gydag Ysgol Cardinal Newman a Choleg Morgannwg hon yn gyfle cyffrous i Goleg Dewi Sant. Rydyn ni’n bartner rhagweithiol mewn cynghrair sy’n gwarantu addysg o’r ansawdd uchaf i chweched dosbarth yn ardal Rhondda Cynon Taf tra’n parhau i gyflenwi darpariaeth flaengar a gofal bugeiliol ar ein campws yng Nghaerdydd."

 

NEWYDD AR GYFER 2012 - RHAGLEN LEFEL UWCH Dringo'n Uchel

UN O'R DATBLYGIADAU MWYAF CYFFROUS AR GYFER 2012 YW LANSIO'N RHAGLEN LEFEL UWCH YN EIN CAMPWS NEWYDD SYFRDANOL YN NANTGARW.

Bydd eich amser a'ch dyfodol yn cynnwys:

  • Dewis o 22 o bynciau Lefel A, na chynigir llawer ohonyn nhw mewn ysgolion fel arfer
  • Cyfleusterau rhyfeddol yr 21 ganrif ar gyfer astudio lefel uwch
  • Staff profiadol gyda phrofiad cymwys ac arbenigedd mewn Lefel A
  • Systemau pwnc a chymorth bugeiliol llawn a chynhwysfawr
  • Pob myfyriwr yn elwa o Gymhwyster Bagloriaeth Cymru (WBQ), cymhwyster sy'n hynod gymeradwy
  • Paratoad llawn ar gyfer gwneud cais a mynediad i Brifysgol
  • Gweithgareddau cyfoethogi yn cynnwys chwaraeon, gweithgareddau creadigol, diwylliannol ac entrepreneuraidd.

Cewch eich cyfarwyddo'n ofalus yn ystod y broses o wneud cais ac ymrestru a chewch gyngor i ddewis pynciau. Bydd ein help i sicrhau cydbwysedd o bynciau yn eich galluogi i symud ymlaen i AU neu i wireddu'ch breuddwyd.

AROS YMLAEN YN Y CHWECHED DOSBARTH YN YR YSGOL

Gallwn ddal i gynnig y cyfle i chi astudio pwnc ychwanegol, os bydd yr amserlen ac amseroedd teithio yn caniatáu.

BETH SY'N CAEL EI GYNNIG?

Mae Rhaglen Lefel Uwch yn eich galluogi i astudio dau/tri neu hyd yn oed edwar pwnc lefel UG ynghyd â'r WBQ (Uwch). Yn dilyn canlyniadau UG, gallwch edyn ddewis dau/tri phwnc A2 ynghy?d â'r WBQ ar gyfer yr ail flwyddyn.

Gallwch ehangu'ch dewis hyd yn oed ymhellach drwy ystyried Cwrs Cyfunol - astudio cyfuniad o 1 neu 2 lefel UG gyda Thystysgrif BTEC. Er enghraifft, Astudiaethau Busnes a Chymdeithaseg UG gyda Thystysgrif /Diploma BTEC mewn Busnes a Chyllid neu Bioleg a Seicoleg UG gyda BTEC mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.


Celf a Dylunio

Daearyddiaeth Ffotograffiaeth
Bioleg Hanes Seicoleg

Astudiaethau Busnes

Y Gyfraith

Addysg Grefyddol

Cemeg Mathemateg Cymdeithaseg
Cyfrifiaduraeth

Astudiaethau'r Cyfryngau

Sbaeneg

Drama/Astudiaethau Theatr

Technoleg Cerdd Cymraeg

Llenyddiaeth /Iaith Saesneg

AG / Astudiaethau Chwaraeon

Bagloriaeth Cymru
Astudiaethau Ffilm Ffiseg
Ffrangeg

Llywodraeth / Gwleidyddiaeth

 

 

PECYN CYMORTH CYNNYDD

Bydd pob myfyriwr yn derbyn pecyn cymorth cyflawn a gaiff ei gydlynu gan eu Tiwtor Cynnydd eu hun. Cynhelir Tiwtorial Cynnydd am awr bob wythnos gan ddilyn rhaglen diwtorial ar ffurf sesiynau grwp neu sesiynau unigol.

  • Bydd Tiwtor Cynnydd a benodir ar eich cyfer ar gael i chi gysylltu ag ef/â hi tu allan i oriau'r tiwtorial os bydd angen cymorth arnoch chi.
  • Mae dau Gydlynydd Cynnydd yn goruchwylio'r grwpiau UG ac A2 ac ar gael i gynnal sesiynau unigol fel yn wir mae’r Hyfforddwyr Dysgu a Thimoedd Cymorth y Campws.
  • Cynhelir cyfarfodydd cynnydd y gwahoddir eich rhieni i'w mynychu ynghanol bob blwyddyn.

 

GOFYNION MYNEDIAD

Bydd disgwyl i chi fod wedi cyflawni lleiafswm o 5 TGAU ar radd C neu uwch ac mae rhaid i Saesneg fod yn un o'r rhain. Ond gall rhai pynciau fod angen gradd B fel man cychwyn, er enghraifft, Cemeg, Ffiseg a Mathemateg.

 

TAITH TGAU

Mae cyflogwyr a phrifysgolion yn ystyried eich graddau TGAU yn ofalus yn enwedig mewn Saesneg a Mathemateg. Bydd angen i unrhyw fyfyriwr sydd heb gael gradd C yn y naill bwnc na'r llall eu hail-sefyll yn ystod eu blwyddyn gyntaf o astudiaeth gyda ni.

HEB GAELY PWYNTIAU!!

Oes rhaid i chi wella'r graddau sydd eu hangen a chynyddu'ch pwyntiau i sicrhau lle mewn prifysgol?


Gall cwrs Llwybr Cyflym ail-adrodd Lefel A, er nad yw'n gwrs i'r gwangalon, eich helpu. Nod y cwrs yw cynorthwyo myfyrwyr i wella'u graddau drwy barhau i astudio'r ddau i dri phwnc i lefel UG a/neu i lefel A y maen nhw wedi eu hastudio'n flaenorol.


Cynigir y cwrs hwn dim ond i fyfyrwyr:

  • â phrofiad blaenorol o lefel A sydd am wella'u graddau
  • sy'n symud ymlaen i Goleg Morgannwg ar ôl cwblhau eu hastudiaethau Blwyddyn 12 yn eu hysgolion.


Byddwn yn darparu cymorth personol a chymorth pwnc er mwyn sicrhau bod y rhai sy'n cychwyn ar y cwrs hwn yn defnyddio'u hamser i sicrhau lle mewn prifysgol neu mewn darpariaeth dysgu yn y gweithle.


Canllawiau'r Cwrs Hwn

Mae'r Coleg wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y prosbectws ar-lein hwn mor gywir â phosibl pan gaiff ei osod ar-lein. Fe'i bwriedir fel canllaw cyffredinol i gyrsiau'r coleg a'i adnoddau ac nid yw'n ffurfio unrhyw rhan o gontract. Ceidw'r coleg yr hawl i wneud newidiadau neu dynnu cwrs yn ôl, heb rybudd, neu ddiddymu adnoddau cwrs neu gymorth sy'n cael ei ddisgrifio yma.