Cydgyfeiriant yw'r rhaglen ddilynodd Amcan 1 (2000-2006). Mae'n delio â 15 awdurdod lleol yng Ngorllewin Cymru a rhanbarth y Cymoedd a bydd yn darparu cymorth ariannol yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer y cyfnod 2007-2013.
Mae'r rhaglen cydgyfeiriant yn cynnwys cyllid o ddwy Gronfa Strwythurol Ewropeaidd gwahanol: Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) a Chronfa Cymdeithasol Ewrop (ESF).
ERDF
Bydd tua 1 biliwn o arian yr ERDF yn helpu i hyrwyddo trawsffurfiad y rhanbarth i fod yn economi gynaliadwy a chystadleuol drwy fuddsoddi yn yr economi wybodaeth a helpu busnesau newydd a rhai'n bodoli eisoes i dyfu. Bydd hefyd yn ffocysu ar adfywio rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru, yn taclo newid hinsawdd a gwella cludiant. Defnyddir ERDF hefyd i gynorthwyo prosiectau isadeiledd.
ESF
Bydd dros £690 miliwn o'r ESF yn cael ei ddefnyddio i daclo anweithgaredd, cynyddu sgiliau a chyfleoedd cyflogaeth i breswylwyr sy'n gymwys. Gyda'i gilydd, ynghyd ag arian cyfatebol, bydd Cydgyfeirio'n gyrru buddsoddiad sy'n gyfanswm o £3.5 biliwn yng Ngorllewin Cymru a'r Cymoedd.
Mae Coleg Morgannwg yn cymryd rhan actif yn y mentrau Cydgyfeirio a bydd yn cyflenwi cyfleoedd hyfforddi i drigolion Rhondda Cynon Taf, mewn cydweithrediad â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a phartneriaid eraill.
Prosiectau Cydgyfeirio i'w cyflenwi mewn partneriaeth â sefydliadau eraill dros y 3 blynedd nesaf
|