Dewiswch maint y ffont:
Swyddi Gwag

Coleg Morgannwg yw'r lle i weithio, yn cynnig cyfleoedd cyffrous ar adeg o newid, cyflogau cystadleuol, budd-daliadau gwych ac awyrgylch gyfeillgar a chynnes.

Pa wybodaeth gewch chi o'r dudalen hon?

Mae'r dudalen hon yn eich galluogi i bori dwy'r holl gyfleoedd cyflogaeth diweddaraf '@Coleg Morgannwg, cael gwybodaeth hanfodol am bob swydd i'ch helpu i benderfynu a yw'r swydd yn addas ar eich cyfer, darparu awgrymiadau defnyddiol ar sut i gwblhau Ffurflenni Cais a Ffurflenni Cyfleoedd Cyfartal yn ogystal â gwybodaeth a fydd o fudd i chi wrth wneud eich cais. Byddech hefyd yn gallu cael cyfarwyddiadau i bob un o gampysau'r Coleg ar y we.
Document Links
Mae Ffurflen Gais ar gael yma
Vacancies @ Coleg Morgannwg
 
Sut mae'n gweithio?
Cyn gwneud cais, os bydd angen gwybod rhagor am y swydd, cliciwch ar deitl y swydd benodol a chewch syniad cyffredinol am y swydd, os, ar ôl darllen yr hysbyseb, dydych chi ddim wedi'ch argyhoeddi, mae'r opsiwn gyda chi i edrych ar ddisgrifiad manwl o'r swydd a manyleb y person. Nawr eich bod wedi dod o hyd i'ch swydd berffaith. Dim ond gwneud cais sydd ei angen nawr. Mae Ffurflenni Cais a Ffurflenni Cyfleoedd Cyfartal ar gael drwy:

Lawrlwytho o'r wefan
E-bostio personnel@morgannwg.ac.uk
Ffonio 01443 663285

Cyn cwblhau'ch Ffurflen Gais a'r Ffurflen Cyfleoedd Cyfartal, darllenwch y canllawiau, a chewch awgrymiadau defnyddiol ar sut i gwblhau'ch ffurflen gais yn gywir.

Cofiwch nad ydyn ni'n derbyn CV fel cais ffurfiol. Ni fydd, hyd yn oed y rhai a ddarparwyd fel gwybodaeth ychwanegol yn cael eu derbyn a byddan nhw'n cael eu dychwelyd.

Ar ôl cwblhau gellir postio neu e-bostio'r Ffurflen Gais i'r:

Adran Personél
Coleg Morgannwg
Rhondda Campus
Pontrhondda Road
Llwynypia
TONYPANDY
CF40 2TQ
Ffôn 01443 663285
personnel@morgannwg.ac.uk
Mae Coleg Morgannwg wedi ymrwymo i Gyfleoedd Cyfartal
Croesewir ceisiadau o bob sector o'r gymuned.