| |
Teirgwaith y cynnydd mewn ceisiadau i wneud Lefel A mewn Coleg yn Ne Cymru |
Mae ceisiadau am le yng Ngholeg Morgannwg wedi torri pob record ar gyfer blwyddyn academaidd 2012/13 a hynny yn y cyfnod cyn agor drysau eu campws newydd gwerth £40miliwn yn Nantgarw.
Cafwyd teirgwaith y cynnydd mewn ceisiadau ar gyfer y ddarpariaeth gynhwysfawr o 24 opsiwn lefel A fydd ar gael o fis Medi gyda thros 200 o fyfyrwyr yn cofrestru ar gyfer y cyrsiau hyd yn hyn.
Derbyniodd y coleg dros ddwywaith cymaint o geisiadau ag arfer am gymwysterau galwedigaethol, yn awgrymu y bydd 2012/13 yn flwyddyn arbennig iawn i’r darparwr addysg bellach sydd â champysau yn Aberdâr, Y Rhondda, Pontypridd a Nantgarw.
Atgyfnerthir cyfleoedd dysgu ar gyfer myfyrwyr ôl-16 yn Rhondda Cynon Tâf ymhellach drwy’r cynghrair strategol a ffurfiwyd gan Goleg Morgannwg, Ysgol Uwchradd Cardinal Newman a Choleg Catholig Dewi Sant. Bwriad y cynghrair a gyhoeddwyd yn ffurfiol ar safle campws newydd Nantgarw gan Jeff Cuthbert, Y Dirprwy Weinidog Sgiliau, ydy cyflenwi’r addysg orau bosibl ar gyfer dysgwyr o bob cefndir.
Yn ôl David Brookes, pennaeth gwasanaethau dysgwyr yng Ngholeg Morgannwg: “Mae’r llif o geisiadau yn newyddion gwych i’r coleg. Rydyn ni wedi ymrwymo i gynnig y rhaglen fwyaf cynhwysfawr posibl o gymwysterau a fydd yn apelio at ddysgwyr o bob gallu a chefndir ac, heb os, mae ychwanegu rhaglen lefel A ynghŷd â’r campws newydd wedi denu myfyrwyr newydd.
“Mae adborth ein myfyrwyr yn awgrymu eu bod yn cael eu denu gan y cyfle i astudio mewn cyfleusterau newydd gwych a chael eu haddysgu gan staff sydd â diddordeb yn eu datblygiad tu hwnt i’r ystafell ddosbarth. Eisoes mae gennym enw da am gyflenwi prentisiaid a hyfforddiant galwedigaethol ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gyflwyno darpariaeth lefel A uchel ei hansawdd o fis Medi.”
Pan ymwelodd Jeff Cuthbert â’r Campws Newydd yn Nantgarw, dywedodd ei fod yn cydnabod bod Coleg Morgannwg yn goleg blaengar sy’n gweithio i gydymffurfio ag agenda Llywodraeth Cymru ar addysg a hyfforddiant ôl-16 yng Nghymru.

Dywedodd Mr Cuthbert: “Mae pob myfyriwr yn unigryw a does dim un dull penodol o ddelio ag addysg pob unigolyn. Blaenoriaeth allweddol Llywodraeth Cymru ydy cynorthwyo llwybrau i mewn i gyflogaeth a helpu pobl ifanc i gyflawni eu potensial llawn, ac rydw i’n hapus iawn gyda’r gwaith y mae Coleg Morgannwg yn ei wneud i sicrhau ei fod yn ganolfan addysgol ar gyfer pob dysgwr yn RhCT, o’r rhai sy’n gadael ysgol i oedolion sy’n dysgu.
“Mae cydweithio yn ddull rhagorol o rannu sgiliau a phrofiad gyda darparwyr AB ac ysgolion er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn derbyn yr addysg a’r adnoddau gorau. Rhaid i ni wneud ein gorau glas i sicrhau bod cynghreiriau fel hyn yn ffynnu er mwyn i Gymru gynhyrchu pobl uchel eu hansawdd yn addysgol wrth adael yr ysgol, pobl a fydd yn gymwys ar gyfer y byd gwaith cystadleuol.”

Bydd Coleg Morgannwg yn agor y campws newydd gwerth £40 miliwn yn Nantgarw ym mis Medi 2012. Hwn fydd y buddsoddiad sengl mwyaf yn addysg Cymru hyd yn hyn, gyda Llywodraeth Cymru yn cyfrannu £27.8 miliwn i’r prosiect. Bydd yn cynnwys rhaglen Lefel A newydd sbon a fydd yn darparu cyfle ar gyfer myfyrwyr Rhondda Cynon Taf i astudio cyrsiau Lefel A mewn amgylchedd addysg bellach am y tro cyntaf. Mae gan Goleg Morgannwg gampysau yn Nantgarw, Pontypridd, Aberdâr a’r Rhondda. |
| |
Cynghrair Strategol yn argoeli’n dda ar gyfer addysg ôl-16 yn RhCT |
Bydd cyfleoedd dysgu newydd yn cael eu creu ar gyfer myfyrwyr ôl-16 yn Rhondda Cynon Tâf diolch i gynghrair strategol rhwng Coleg Morgannwg, Ysgol Uwchradd Gatholig Cardinal Newman a Choleg Catholig Dewi Sant.
Mae’r bartneriaeth newydd gyffrous hon yn unol ag agenda Llywodraeth Cymru ar gyfer gweddnewid addysg ôl-16 a hyfforddiant yng Nghymru. Lleolir y ganolfan gydweithrediadol ar gyfer addysg ôl-16 yn Nantgarw ar gampws newydd Coleg Morgannwg gwerth £40 miliwn.
Bydd y bartneriaeth yn cyflenwi’r addysg orau bosibl i ddysgwyr o bob cefndir gyda dewis o dros 24 o bynciau Lefel A o fis Medi 2012, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru, gwell cyfleusterau a gofal bugeiliol rhagorol.
Dywedodd Judith Evans, Pennaeth Coleg Morgannwg: “Mae hon yn bartneriaeth arloesol, gyffrous a fydd yn darparu cyfleoedd ardderchog ar gyfer dysgwyr yn RhCT. Bydd y dysgwyr yn cael y fantais ychwanegol o gael eu haddysgu mewn adeilad newydd sbon o’r radd flaenaf gyda’r bartneriaeth yn benderfynol o ddarparu’r gorau ar gyfer yr ardal y mae’r tri sefydliad yn eu gwasanaethu, a phob un yn cyfrannu ei arbenigedd ei hun.”
Bydd y bartneriaeth newydd yn gwasanaethu dysgwyr o’r gymuned ehangach, tra bydd presenoldeb Ysgol Uwchradd Gatholig Cardinal Newman a Choleg Catholig Dewi Sant yn sicrhau bod yr ethos Catholig yn cael ei chynnal ar gyfer y myfyrwyr hynny sy’n dymuno parhau i astudio o fewn ethos ffydd.
Dywedodd Justin O'Sullivan, Prifathro Ysgol Gyfun Gatholig Cardinal Newman ym Mhontypridd: "Mae’r bartneriaeth newydd hon yn gyffrous iawn. Mae ein dalgylch yn un eang yn gwasanaethu’r ardal i’r gogledd o Gaerdydd gan gynnwys Llantrisant yn y gorllewin ac yn ymestyn i Gaerffili yn y dwyrain a thu hwnt i Dreorci yn y gogledd. Mae Ysgol Cardinal Newman yn falch iawn o gael chwarae rhan mor gyflawn wrth geisio sicrhau addysg ôl-16 ar gyfer pobl yr ardal hon.”
Bydd y cydweithrediad, drwy Goleg Morgannwg, yn cynnwys y tri sefydliad partner yn cydweithio’n agos gyda’i gilydd gyda staff profiadol yn cyflenwi cyfran sylweddol o’r cwricwlwm yn y ganolfan Lefel A newydd.
Hefyd, caiff myfyrwyr y cyfle i astudio ar gyfer Cymhwyster Bagloriaeth Cymru yn ogystal â phrofiad o ystod o weithgareddau all-gyrsiol, yn chwaraeon, yn rhai diwylliannol, creadigol ac entrepreneuraidd.
Ychwanegodd Mark Leighfield, Pennaeth Coleg Dewi Sant ym Mhenylan, Caerdydd: “Mae’r gynghrair strategol gydag Ysgol Cardinal Newman a Choleg Morgannwg hon yn gyfle cyffrous i Goleg Dewi Sant. Rydyn ni’n bartner rhagweithiol mewn cynghrair sy’n gwarantu addysg o’r ansawdd uchaf i chweched dosbarth yn ardal Rhondda Cynon Taf tra’n parhau i gyflenwi darpariaeth flaengar a gofal bugeiliol ar ein campws yng Nghaerdydd." |
| |
Y Dirprwy Weinidog Sgiliau yn cefnogi cynllun Rhith-Fenter Byd-Eang |
Gyda lefelau diweithdra yng Nghymru ar ei uchaf erioed, mae Llywodraeth Cymru yn galw ar ysgolion, colegau a darparwyr hyfforddiant i sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu paratoi’n drylwyr ar gyfer byd gwaith.
Tra’n annerch cyfarfod agoriadol y sefydliad byd-eang Rhwydwaith Menter Ymarfer (PEN), yng Nghaerdydd ar y 26 o Fawrth, cefnogodd Jeff Cuthbert, y Dirprwy Weinidog Sgiliau y cynllun hwn sy’n caniatáu i fyfyrwyr sefydlu cwmnïau ymarfer a masnachu gyda rhith gwmnïau eraill mewn gwledydd sy’n rhan o’r fenter o gwmpas y byd.

Teithiodd cynrychiolwyr o wledydd megis Tsieina, Malaysia, Awstralia, Ffrainc a’r Almaen i Gaerdydd i’r digwyddiad tridiau i drafod a hyrwyddo’r cysyniad o gwmni ymarfer.
Dywedodd Mr Cuthbert: "Mae angen i ni sicrhau bod gan bobl ifanc Cymru y sgiliau sydd eu hangen i ymwneud â’r economi modern byd-eang. Mae’r syniad o Gwmni Ymarfer y mae EGNI yn ei hyrwyddo yng Ngholeg Morgannwg yn gynllun cyffrous ac arloesol a fydd o wir help i fyfyrwyr ddeall byd busnes yn drylwyr.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo’n bendant i gynorthwyo myfyrwyr i wella’u dealltwriaeth o fyd gwaith a’u sgiliau cyflogadwyedd. Yn union fel y gwledydd eraill sy’n cael eu cynrychioli yma heddiw, mae Llywodraeth Cymru yn sylweddoli bod rhaid i Gymru feddu ar fantais gystadleuol sy’n annog cyflogwyr i fuddsoddi a thyfu eu gweithrediadau yma a darparu cyfleoedd gwaith. Mae cynorthwyo llwybrau i swyddi cynaliadwy a helpu pobl ifanc i gyrraedd eu llawn botensial yn flaenoriaethau allweddol. Mae’r fenter hon yn cefnogi’r camau gweithredu yr ydyn ni’n eu cymryd i fuddsoddi mewn sgiliau sy’n arwain at gyfleoedd i’r dysgwr ac, yn y pen draw, a fydd yn gwella adfywiad economi Cymru."
Lleolir Swyddfa Ganolog y DU ar gyfer PEN yng Ngholeg Morgannwg ac yno mae’n cynnal rhaglen EGNI (Profiadau’n Cynhyrchu Arloesedd).
Dywedodd Christine Thomas, rheolwraIg EGNI yng Ngholeg Morgannwg: “Mae’n anrhydedd bod aelodau rhyngwladol PEN wedi dewis cwrdd yng Nghaerdydd. Eisoes, mae gan lawer o’r gwledydd hyn, Tsieina er enghraifft, nifer fawr o gwmnïau ymarfer ac mae’n nhw’n sylweddoli pa mor werthfawr ydy rhoi profiad ymarferol i bobl ifanc o holl agweddau busnes i atgyfnerthu eu cyflogadwyedd.

“Gyda chymaint o ansicrwydd yn y farchnad lafur, ni fu erioed adeg gwell ar gyfer y math hwn o gynllun. Mae rhaglen EGNI yn caniatáu i fyfyrwyr gynyddu mewn hyder ac adeiladu’r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw yn eu gyrfa drwy eu galluogi i gyfathrebu a masnachu ar lefel ryngwladol.”
Yn gyfredol, mae 25 o gwmnïau ymarfer yn y DU a nod y swyddfa ganolog ydy ehangu’r gwasanaeth fel bod myfyrwyr a cheiswyr gwaith yn cael cyfle i gael mynediad i’r sgiliau gwerthfawr hyn. |
| |
Coleg Morgannwg ar ei ‘Daith Werdd’ |
Mae Coleg Morgannwg wedi cychwyn ar ei siwrnai ar gynllun Gwobrwyon Cynllun Teithio Cymru sy’n cydnabod arferion gorau a rhagoriaeth ym maes Cynlluniau Teithio.

Judith Evans (Pennaeth), Y Cynghorydd Andrew Morgan (Cadeirydd SEWTA), Deborah Stux (SEWTA), Nicola Davies (SEWTA), Staff a myfyrwyr, Swyddogion Rhondda Cynon Taf, cynrychiolwyr o Gwmni Bysiau Stagecoach a’r Tîm Plismona’r Gymuned.
Mae’r coleg wrth ei fodd i fod yn un o’r cyntaf o golegau A.B. i ennill y Dyfarniad Lefel Efydd sy’n cydnabod ei ymdrechion i lunio Cynllun Teithio, sy’n annog staff a myfyrwyr i fod yn ‘fwy gwyrdd’ wrth deithio.
Yn y Cynllun, mae pedwar categori, efydd, arian, aur a phlatinwm, sy’n cael eu defnyddio i wahaniaethu rhwng lefelau’r cynnydd a wneir; mae’r coleg eisoes yn gweithio tuag at sicrhau’r wobr Arian ar bob campws.
Dywedodd Judith Evans, y Pennaeth, ‘Dw i’n hapus iawn i dderbyn y wobr hon a hoffwn ddiolch i’r holl staff a’r myfyrwyr fy ynghlwm wrth y gwaith. Â’n campws newydd yn agor yn Nantgarw ym mis Medi 2012, mae’r coleg yn awyddus i fod yn gymydog da a’i nod ydy rheoli ein trefniadau teithio a pharcio mewn modd cyfrifol. Mae materion ‘gwyrdd’ hefyd yn bwysig i ni, gan ein bod yn cyflenwi cyrsiau cynaliadwy fel rhan o’r cwricwlwm.’

Nicola Davies (SEWTA), Judith Evans (Pennaeth), Y Cynghorydd Andrew Morgan (Cadeirydd SEWTA) Deborah Stux (SEWTA).
Ychwanegodd y Cynghorydd Andrew Morgan, Cadeirydd SEWTA (Cynghrair Cludiant De Ddwyrain Cymru): “Mae’n hyfrydwch gael cyflwyno gwobr lefel Efydd y Cynllun Teithio i Goleg Morgannwg. Dw i wrth fy modd clywed eu bod wedi gosod nod o gyflawni Platinwm. Fel cadeirydd SEWTA, dw i’n ymwybodol bod y coleg yn cydweithio’n agos gyda’r Awdurdod Lleol ac ynghyd â sefydliadau eraill yn rhan allweddol o fforymau sy’n delio â phroblemau teithio a rhannu arferion da. Gall sefydliadau mawr sydd ar fwy nag un safle gyflwyno nifer o fentrau megis fideo-gynadledda, rhannu ceir a chynlluniau beiciau er mwyn gwneud gwahaniaeth. Dw i’n edrych ymlaen i gyflwyniad Cynllun Teithio’r Coleg ar gyfer y Wobr Arian.”
Mae Coleg Morgannwg yn agor ei gampws newydd gwerth £40 miliwn yn Nantgarw ym mis Medi 2012 ynghyd â lansio darpariaeth Newydd ar gyfer lefel A i ehangu opsiynau ôl 16 yn Rhondda Cynon Tâf a’r ardal gyfagos. |
| |
| Cwrs gwisgoedd y Coleg ar lwyfan rhyngwaldol |
Mae myfyrwyr o’r coleg ar eu ffordd i Tsieina i gyfrannu gwisgoedd i gynhyrchiad rhyngwladol o ‘Dan y Wenallt’ Dylan Thomas, cynhyrchiad sy’n dathlu’r Wythnos Gymreig yno.
Kirsty Parsons, myfyrwraig ar gwrs BA cynllunio gwisgoedd yng Ngholeg Morgannwg fydd yn arwain y tîm sy’n hedfan allan i Tsieina. Y fyfyrwraig 20 oed o Gastell-nedd sydd wedi cynllunio’r gwisgoedd i gyd ar gyfer y cynhyrchiad cyfnod sydd wedi’i osod yn y 1940au gan ddefnyddio lluniau o’r cyfnod, a hyd yn oed chwilota am hen luniau’r teulu i’w hysbrydoli.
Mae dwy fyfyrwraig o’r ail flwyddyn yn mynd gyda hi, Stephanie Sutton, 20, a Francesca Dunn, 20, sydd, ar hyn o bryd yn astudio ar gwrs gradd sylfaen gwisgoedd yn y coleg. Gyda’i gilydd, gwnaeth y merched yr holl wisgoedd, eu prynu a’u haddasu ar gyfer y ddrama.
Teithiodd y tair ynghyd â’u tiwtor gyda’r gwisgoedd i Chongqing yn Tsieina, a gwisgo myfyrwyr cwrs celfyddydau perfformiadol o Goleg Gwent ar gyfer y cynhyrchiad. Cynhaliwyd tri pherfformiad o ‘Dan y Wenallt’ yn Ysgol Gelf Chongqing a Choleg Rheoli Dinas Chonguin. Yn ogystal â helpu’r perfformwyr, fe gynhalion nhw hefyd weithdai gyda myfyrwyr o Tsieina ar wisgoedd Cymreig.
Bwriad yr Wythnos Gymreig a weithredir gan y Cyngor Prydeinig ydy arddangos diwydiant, addysg, diwylliant, celfyddydau a thwristiaeth Cymru ac amlygu’r cyfnewid, y cydweithredu a’r cynnydd sy’n digwydd rhwng Cymru a Chongqing.
Dwedodd Kirsty, “Cyfle unwaith mewn oes oedd hyn i mi ac ron i wrth fy modd yn cymryd rhan ac mor falch mod i wedi cael fy newis i gynrychioli Coleg Morgannwg a Chymru fel cynllunydd addawol. Mae’r profiad wedi golygu mod i wedi gwella fy sgiliau creu gwisgoedd a hefyd wedi rhoi syniad i mi o’r proffesiynoldeb a’r sgiliau sydd eu hangen yn y diwydiant. Mae ymweld â Chongqing wedi rhoi cipolwg ar ddiwylliant newydd i mi a chyfle i rannu ychydig o fy niwylliant innau, a fy helpu i ddatblygu mewn cymaint o ffyrdd.
“Bu Coleg Morgannwg yn gefnogol drwy gydol y broses. Emma Highgate, fy nhiwtor oedd fy mentor ar y modiwl hwn a bu mor barod ei chymorth yn ystod pob cam o’r holl broses.”
Mae’r adran creu gwisgoedd eisoes wedi ennill clod yn genedlaethol, gan dderbyn gwobr addysgol y DU am ei safonau uchel a’i ddull arloesol o astudio sy’n mynd i’r afael â’r bylchau sgiliau yn y diwydiant.
Dwedodd Emma Highgate, tiwtor ar y cwrs creu gwisgoedd yng Ngholeg Morgannwg, “Mae hwn yn gyfle gwych i ennill profiad ymarferol dan amodau real, tra ar yr un pryd profi diwylliant gwahanol. Dw i’n falch iawn o gael arddangos sgiliau fy myfyrwyr yn Tsieina. Yn sicr, mae eu gwaith caled a’u dawn i greu gwisgoedd i’w weld yn ansawdd yr hyn maen nhw wedi’i gynhyrchu a gwn y bydd eu gweithdai yn wir ysbrydoli’r myfyrwyr Tsieineaidd a byddan nhw’n elwa’n fawr”.
Mae’r daith hon yn un o nifer o gyfleoedd rhyngwladol mae Coleg Morgannwg wedi’u trefnu ar gyfer myfyrwyr mewn ymgais i gynnig cymaint â phosibl o brofiadau ar eu cyfer.” |
| |
| Fel y bo’r tad, bydd y ferch;hanes un tad o Dde Cymru yn helpu ei ferch i gael swydd |
Mae plymwr hunangyflogedig o Bontypridd wedi symud o fod yn brentis ei hun i fod yn fentor, ar ôl cwblhau ei gymwysterau gwaith plymwr yng Ngholeg Morgannwg a recriwtio ei ferch 17 oed i fod yn brentis iddo.
Dychwelodd David Webb i’r coleg yn 2002 pan benderfynodd newid ei yrfa a gadael ei swydd fel nyrs seiciatrig gynorthwyol i chwilio am swydd fwy ymarferol. Cwblhaodd brentisiaeth mewn gwaith plymwr a sefydlu ei fusnes ei hun y llynedd.
Nawr, mae David yn galw ar ragor o gyflogwyr i helpu hyfforddi pobl ifanc drwy gynnig prentisiaethau er mwyn sicrhau sgiliau hanfodol a thwf yn eu busnesau
Dywedodd David: “Yn ystod fy mhrentisiaeth, ces syniad cynhwysfawr iawn o’r hyn ydy gwaith plymwr fel swydd ac fel busnes. Dw i’n meddwl bod dychwelyd i’r coleg yn hwyrach yn fy mywyd wedi golygu fy mod yn fwy ymroddedig, yn canolbwyntio ar wella fy sgiliau a gweithio’n galed i gyflawni fy nod o sefydlu fy musnes fy hun. Byddwn yn cynghori unrhyw un sy’n ystyried newid cyfeiriad eu gyrfa i fynd amdani. Dw i wrth fy modd gyda’r rhyddid mae gweithio ar fy liwt fy hun yn ei roi i mi a dwi’n hynod falch o fod yn gallu helpu fy merch yn ei gyrfa hithau.”
Mwynhaodd David raddfa cyflymdra’r dysgu ac ystod y sgiliau craidd a ddysgodd yng Ngholeg Morgannwg. Rhoddodd y cyfuniad o theori a phrofiad ymarferol yn y gwaith syniad iddo am realiti rhedeg busnes yn ogystal â deall ochr dechnegol ei grefft.
Teimlai David fod yr enw da sydd gan wneud prentisiaeth, a’r profiad ymarferol a gafodd ar y cwrs, yn ei osod ben ac ysgwydd uwch pobl eraill oedd yn cychwyn ar yrfa gwaith plymwr. Y profiad positif hwn a’i arweiniodd i annog ei ferch i ymuno ag e yn y busnes pan adawodd hi’r ysgol.
Nawr mae Jodie, merch David, ar fin dilyn ôl traed ei thad drwy ddod yn brentis iddo yn y gobaith o sefydlu'r hyn a fydd yn fusnes teulu llwyddiannus yn y dyfodol. Bydd yn cychwyn ar ei phrentisiaeth yn DAW Plumbing ym mis Medi.
Dywedodd Jodie: “Cyn penderfynu mynd yn brentis iddo, treuliais amser yn gweithio gyda fy nhad ac ron i wrth fy modd yn ei weld wrth ei waith bob dydd. Sylweddolais fod gen i wir ddiddordeb mewn gwaith plymwr. Anogodd fi i roi cynnig arni ac roedd mynd yn brentis yn ffordd ardderchog i ddysgu’r sgiliau oedd eu hangen arna i yn fy ngyrfa fy hun. Dw i wir yn edrych ymlaen at gael dysgu’r grefft oddi wrtho a gallu cyfrannu i’r busnes teuluol.”
Dywedodd Michael Winter, sy’n rheolwr contract dysgu yn y gweithle yng Ngholeg Morgannwg: “O’r adborth dyn ni’n derbyn gwelwn fod prentisiaethau yn gwbl hanfodol i bobl fel David a Jodie sy’n awyddus i weithio mewn sectorau sy’n gofyn am sgiliau ymarferol.
“Mae’r profiad nid yn unig yn fanteisiol i’r myfyrwyr, ond mae hefyd yn caniatáu i fusnesau lleol fireinio sgiliau proffesiynol pobl frwdfrydig, ymroddedig sy’n awyddus i fanteisio ar gyfleoedd yn y diwydiant ac sy’n gallu gwneud cyfraniad gwerthfawr i’r cwmni maen nhw’n hyfforddi ynddo. Pwrpas y fframweithiau dysgu ydy diwallu anghenion y cyflogwr a chyflenwi’r yr hyfforddiant i lenwi’r bylchau yn y maes sgiliau a chreu pobl broffesiynol sy’n barod am alwadau’r gweithle. |
| |
Coleg Morgannwg yn cipio un o brif Wobrau Ansawdd Cymru
|
Enillodd Coleg Morgannwg wobr Cadeirydd y sefydliad Ansawdd am brentisiaethau, fel cydnabyddiaeth am gyfraniad eithriadol a gwaith y coleg ym maes datblygu cynlluniau prentisiaeth o ansawdd uchel, ac yn arbennig am eu gwaith gyda GE Aviation Wales.
Caiff y Gwobrau eu cynnig gan Ganolfan Ansawdd Cymru (WQC), ac maen nhw’n seiliedig ar Fodel Rhagoriaeth Y Sefydliad Ewropeaidd er Rheoli Ansawdd (EFQM) sy’n cael ei barchu’n rhyngwladol ac yn un o’r fframweithiau mesur ansawdd mwyaf trwyadl yn y byd ar gyfer gweithrediad sefydliadau.

Mae Campws Nantgarw Coleg Morgannwg bellach yn gyfystyr â hyfforddiant darpar beirianwyr, ac yn arbennig peirianwyr awyrofod. Golygodd y bartneriaeth faith â chwmni GE Aviation Wales, sy’n arbenigo mewn trin peiriannau awyrennau, bod y ddau sefydliad yn cydweithio i gynllunio rhaglen hyfforddi prentisiaid oedd yn ffitio anghenion GE i’r dim.
Mae GE Aviation Wales yn cefnogi’r traddodiad o ddysgu parhaus, yn arbennig ym maes hyfforddi prentisiaid. Mae eu rhaglen hyfforddi wedi ei chynllunio i sicrhau’r safonau ansawdd mwyaf manwl sydd ynghlwm wrth y diwydiant awyrennau. Mae’r rhaglen hyfforddi prentisiaid hefyd yn delio ag unrhyw fylchau sgil a ganfyddir yn y sector awyrofod.

Mae Coleg Morgannwg wedi gweithio’n agos gyda GE Aviation Wales i hyfforddi pobl ifanc i fod yn dechnegwyr a pheirianwyr awyrofod llwyddiannus. Cynlluniwyd a chyflenwyd y rhaglen hyfforddi ar y cyd i sicrhau bod y rhaglen yn cwrdd â safonau ansawdd y Cyngor Sgiliau Sector dros Wyddoniaeth, Peirianneg a Thechnolegau Gweithgynhyrchu a’r diwydiant awyrennau a Choleg Morgannwg.
Gellir dweud mai’r cydweithio rhagorol rhwng GE Aviation Wales a Choleg Morgannwg sydd wedi sicrhau llwyddiant rhaglenni hyfforddi prentisiaid GE Aviation Wales. Mae’r ffocws yn gadarn ar ddarpariaeth o ansawdd a cheisio sicrhau llwyddiant prentisiaid sydd wrth wraidd y cynllunio a’r cyflenwi.

Yn ôl Judith Evans, Pennaeth Coleg Morgannwg: "Mae ennill Gwobr Ansawdd Cymru yn dystiolaeth i ymrwymiad ein staff a’n myfyrwyr ac rydyn ni’n falch iawn bod eu gwaith wedi cael ei gydnabod gyda gwobr o’r fath safon.”
“Rydyn ni’n ymdrechu’n barhaus i ddarparu’r sgiliau sy’n angenrheidiol i sicrhau swyddi da ar gyfer y myfyrwyr yn eu dewis faes mewn marchnad gynyddol gystadleuol. Lluniwyd y cynllun arbennig hwn i fynd i’r afael â’r prinder sgiliau yn y sector awyrofod, ac mae wedi rhoi cyfle i gannoedd o fyfyrwyr ddatblygu’n beirianwyr llwyddiannus. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb y bartneriaeth ardderchog gyda GE Aviation Wales. Rydyn ni’n hynod o ffodus i fod wedi meithrin cysylltiadau mor gadarn gyda busnesau yng Nghymru sy’n gwerthfawrogi gwerth datblygu talent ac mae ein myfyrwyr yn elwa o weithio ochr yn ochr ag arbenigwyr y diwydiant.”
Ar hyn o bryd, mae Coleg Morgannwg yn paratoi i lansio darpariaeth newydd Lefel A yn 2012 i gyd-daro â’r campws newydd sbon gwerth £40 miliwn yn Nantgarw a bydd yn caniatáu i’r coleg gynnig llwybr addysgol arall ar gyfer myfyrwyr yn Ne Cymru. Y campws newydd ydy’r buddsoddiad mwyaf sylweddol mewn addysg bellach yng Nghymru ac mae’n golygu y bydd y coleg uchelgeisiol hwn yn gallu cynnig dewis mwy cynhwysfawr fyth o gymwysterau. |
| |
Partneriaeth Colegau yn lansio rhaglen newydd Lefel A |
Mae partneriaeth gyffrous newydd rhwng dau goleg yn Ne Cymru yn ehangu’r dewis i fyfyrwyr ôl-16, drwy gyflwyno darpariaeth newydd sbon ar gyfer Lefel Uwch (Lefel A) i ardal Rhondda Cynon Taf, a bydd hwn yn cael ei gyflwyno mewn campws newydd gwerth £40 miliwn yn Nantgarw.
Mae Coleg Morgannwg a Choleg Pabyddol Dewi Sant Caerdydd (St David’s Catholic College) wedi ffurfio cynghrair strategol i ddarparu 22 pwnc Lefel A i fyfyrwyr yn Rhondda Cynon Taf a’r ardaloedd cyfagos. Lansiwyd y cynllun yn swyddogol ar gampws newydd Coleg Morgannwg yn Nantgarw, i gyflwyno myfyrwyr a staff fel ei gilydd i’r rhaglen newydd, fydd yn cael ei haddysgu ar gampws newydd sbon Nantgarw gan gychwyn ym Medi 2012.

Mae’r bartneriaeth strategol yn golygu y bydd pobl ifanc yn Rhondda Cynon Taf yn gallu astudio Lefel A mewn amgylchedd addysg bellach am y tro cyntaf. Bydd y ddau goleg yn cyfnewid gwybodaeth am sgiliau a phynciau mewn trefniant sydd o fudd i’r ddwy ochr ac yn rhoi opsiynau addysg bellach eang iawn i’r myfyrwyr.
Dywedodd Judith Evans, Pennaeth Coleg Morgannwg: “Mae’r darpariaethau ar gyfer agor ein Campws Newydd yn Nantgarw yn prysuro ymlaen a bydd y ddarpariaeth ychwanegol o allu cynnig Lefel A a chyrsiau newydd eraill yn ein gosod ar y blaen i sefydliadau eraill.
 
“Mae’r adeilad newydd yn edrych yn wych ac y mae cynnwrf gwirioneddol o fewn y coleg a’r ardal leol wrth edrych ymlaen am yr agoriad. Gan ei fod y buddsoddiad mwyaf arwyddocaol mewn addysg bellach yng Nghymru, rydyn ni’n hyderus y bydd yr adeilad newydd yn caniatáu i ni gynnig rhagolygon newydd a chyffrous i’n myfyrwyr tra’n parhau ein traddodiad maith o ddarparu amgylchedd bugeiliol a dysg sy’n ardderchog.”
Yn ogystal â chyd-rannu rhwng y ddau goleg, bydd Coleg Morgannwg yn awr yn gallu cynnig cyrsiau cyfun, gydag opsiynau academaidd a galwedigaethol. Bydd gan y myfyrwyr yr opsiwn i ddewis a matsio eu pynciau, ail-sefyll TGAU ac y mae yna Lwybr Carlam Addysg Uwch i gwrs blwyddyn Lefel A, ar gyfer y rhai sydd angen pwyntiau UCAS ychwanegol i fynd i Brifysgol.
Dywedodd Ken Reed, pennaeth cynorthwyol Coleg Pabyddol Dewi Sant: “Rydyn ni’n falch iawn o’r bartneriaeth â Choleg Morgannwg ac yn hyderus bydd y cydweithredu’n dod a chyfleoedd cynhyrfus i’r ddwy ochr.
“Mae Coleg Morgannwg yn lle mor groesawus a hapus ac mae hynny’n hanfodol i les a pherfformiad y myfyrwyr. Byddwn yn helpu i ddatblygu eu rhaglen lefel uwch tra’n cael mantais o amrediad eithriadol o gyrsiau galwedigaethol y mae ganddyn nhw brofiad eang o’i ddarparu. Er bod llawer o fanylion sydd angen eu cwblhau, mae yna botensial ffantastig yn y bartneriaeth ar gyfer dysgwyr yn Ne Cymru ac yn RhCT yn benodol.”
 
Yn ystod y noson agored, gynhaliwyd ar gampws Nantgarw, gwelwyd myfyrwyr yn arddangos talentau, gan gynnwys gweini ‘canapés’ o waith y myfyrwyr arlwyo,tra roedd eraill yn darparu’r adloniant byw. Drwy gydol y noson, codwyd arian at Elusen i’r Digartref ym Mhontypridd, sy’n rhan o waith Bagloriaeth Cymru y myfyrwyr.
Bydd y myfyrwyr cyntaf yn cael eu derbyn ar gyfer y Campws Newydd yn Nantgarw, gan gynnwys rhai fydd yn astudio ar gyfer Lefel A am y tro cyntaf yn y coleg, ym Mis Medi 2012.
|
| |
Myfyrwyr Coleg Morgannwg yn creu gwisgoedd pantomeim ........... o naddo ddim! |
Ers mis Medi, bu staff a myfyrwyr ar gwrs Creu Gwisgoedd BA (Anrh) yng Ngoleg Morganwg yn gweithio’n ddiflino i gynhyrchu gwisgoedd gwych ar gyfer pantomeim swyngyfareddol Rhondda Cynon Taf.
Bydd pantomeim Sinderela yn cael ei pherfformio yn nhair brif theatr Rhondda Cynon Taf, y Coliseum, Canolfan Gelfyddydol y Miwni a’r Parc & Dâr a’r sêr fydd Alex Winters o CBeebies a Frank Vickery.

Cynllunwyr y gwisgoedd Donna Adams, Hafina Harris a Georgie Phillips gyda meistr y gwisgoedd ar y cynhyrchiad,
Nicholas Grimes, o’r cwrs BA (Anrh) Creu Gwisgoedd yng Ngholeg Morgannwg.
Roedd Joanne Ridout, Rheolwraig Gwasanaethau Diwylliannol Rhondda Cynon Taf yn rhyfeddu at orffeniad proffesiynol y dilllad, a dwedodd, “Roedd y gwisgoedd yn edrych yn wych ac yn dangos gwaith caled myfyrwyr a’r staff a’u hymroddiad i’r prosiect.
Mae’r gwisgoedd yn amrywio o ddillad y Chwiorydd Hyll, gan gynnwys un goeden Nadolig ryfeddol gyda’i haddurdniadau, iwnifform Brownie, i wisg aur a glas Buttons, a chôt ffwr pinc llachar anhygoel”.

Gwisg syfrdanol y chwaer hyll!
Gellir gweld y gwisgoedd yn eu holl ogoniant yn ystod perfformiad yn un o’r theatrau o Ddydd Gwener 2 Rhagfyr tan Ddydd Sadawrn 31 Rhagfyr pan fydd Seren y ‘West End’, Gillian Elisa yn ymuno â Frank ac Alex. Gillian fydd y Dylwythen Deg. (www.rct-arts.co.uk) |
| |
| Enillwyr "Big Pitch" |
Llongyfarchiadau i’n tîm o fyfyrwyr Celfyddydau Perfformio dan y ffugenw ‘Frugality’ am ennill gwobr 1af yn ffeinal y “Big Pitch” a gynhaliwyd yn Adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd. Roedd cryn gystadleuaeth yn eu herbyn gan fod yno 7 tîm arall o dri Choleg o Dde Cymru - Merthyr, Ystrad Mynach a Gwent.

Ymhlith y panel beirniad roedd Ruth Badger, y wraig fusnes tra beirniadol aeth i ffeinal rhaglen yr ‘Apprentice’; roedd y panel wedi eu plesio â safon y cyflwyniadau ac roedden nhw’n unfryd yn eu dyfarniad.
Llongyfarchiadau hefyd i Dîm y Team ‘Sportsters’ o’r coleg, fu hefyd yn cystadlu yn yr achlysur cyffrous hwn, am roi cyfrif da iawn ohonyn nhw eu hunain drwy ymddwyn yn hynod o broffesiynol. Roedd y ddau dîm yn glod i’r coleg ac i’w tiwtoriaid.

Bydd rhagor o wybodaeth am y digwyddiad ffantastig hwn a hanes am gyfle rhyfeddol a roddwyd i un aelod o dîm y Sportsters cyn bo hir.
Am y tro, fe hoffem ni ddiolch i bawb wnaeth gefnogi'r “Big Pitch” o’r dechrau i’r diwedd. |
| |
Sbaeneg: Yn Allweddol i Raglen Waith Prentisiaid Peirianneg |
Mae cyfle i gael lleoliad gwaith yn Ewrop yn ysbrydoli prentisiaid o Gymru i ehangu eu gorwelion. Y cam cyntaf – dysgu Sbaeneg.
Mae Sbaen yn cynnal lleoliadau gwaith pythefnos o hyd i brentisiaid o Gymru o dan raglen dan arweiniad CollegesWales International - sef cangen ryngwladol ColegauCymru / CollegesWales. Mae’r rhaglen a ariennir gan Ewrop yn gweithio gyda cholegau ledled Sbaen - yng Ngwlad y Basg, Catalonia ac Ynysoedd Baleares - i chwilio am leoliadau gwaith i hyd at 26 o brentisiaid o Gymru yn y gwanwyn 2012.
Mae’r rhaglen lleoliad gwaith hon yn uchelgeisiol ac yn heriol i’r dysgwyr. Mae tiwtoriaid y prentisiaid yn eu sefydlogi yn y wlad sy’n cynnal ac wedyn yn gadael y prentisiaid i fod yn gyfrifol am wneud swydd mewn cwmni yn Ewrop. Bydd rhaid iddynt addasu i ddiwylliant newydd, cyd-dynnu â chydweithwyr newydd a chyfathrebu mewn iaith anghyfarwydd am barhad eu harhosiad.
Heddiw, mae pum prentis peirianneg, sy’n astudio yng Ngholeg Morgannwg wedi cael amser gan eu cwmnïau - FSG Tool and Die, RPC Containers ac Eries Magnetics, ynghyd â dau diwtor peirianneg o Goleg Castell-nedd Port Talbot - Michael Rees a Colin Thomas, i ddechrau paratoi ar gyfer y lleoliadau a fydd yn digwydd fis Mawrth nesaf trwy ddysgu Sbaeneg.

Dywedodd un o’r prentisiaid, Luke Parry sy’n 19 oed ac yn gweithio yn FSG Tool and Die: “Dewisais beidio ag astudio ieithoedd yn yr ysgol - roedd fy mryd i ar wyddoniaeth a thechnoleg. Ond mae hyn yn wahanol. Mae’n digwydd go iawn - rwy’n mynd i weithio yn Sbaen. Bydd angen imi ddeall fy swydd, fy nghydweithwyr ac wrth gwrs y pennaeth! A bydd angen imi gael trefn ar fy hun - prynu bwyd, defnyddio cludiant cyhoeddus. Popeth.
“Mae’n rhoi dysgu iaith mewn persbectif cwbl newydd. Mae gennyf gymhelliant uchel i ddysgu Sbaeneg nawr. Bydd rhaid imi weithio’n galed rhwng nawr a mis Mawrth i wasgu digon o Sbaeneg i’m hymennydd i allu gwneud y mwyaf o’r profiad hwn.
“Rwy’n edrych ymlaen hefyd at ychwanegu iaith dramor fodern at fy CV. Mae’n wych bod y cwrs iaith rwyf arno’n mynd i gael ei achredu felly bydd gennyf rywbeth ar bapur i ddangos amdano. A phrofiad gwaith mewn gwlad arall hefyd, rwy’n mawr obeithio y bydd hynny’n gymorth mewn sawl ffordd yn y dyfodol.”
Dywedodd Cydlynydd Rhyngwladol ColegauCymru / CollegesWales, Siân Holleran, ac y mae hi ei hun yn ieithydd: “Mae ColegauCymru’n gweithio’n galed i gynnig cyfleoedd i ddysgwyr yng Nghymru ehangu eu gorwelion a dod o hyd i’w lle yn yr economi fyd-eang. Ni fu gwell amser erioed i fyfyrwyr coleg uchelgeisiol sydd â’u bryd ar lwybr gyrfa alwedigaethol i ychwanegu iaith dramor fodern at eu set o sgiliau galwedigaethol.
“Mewn partneriaeth â CILT Cymru, y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ieithoedd, mae ColegauCymru wedi trefnu hyfforddiant iaith dwys i’r prentisiaid, a achredir gan CBAC. Cynhelir y sesiynau yng Ngogledd a De Cymru.
“Gellir dod o hyd i yrfaoedd galwedigaethol cludadwy rhyngwladol mewn therapi harddwch, gweinyddiaeth busnes, arlwyo, adeiladu, addysg, peirianneg a rhagor. Mae sgiliau technegol a meddal lefel uchel yn ogystal â phrofiad o ddiwylliannau eraill a meistrolaeth ar iaith arall yn gwneud cyfuniad diguro.
“Rwy’n edrych ymlaen at ehangu’r cyfleoedd hyn yng Nghymru trwy ehangu cyfranogiad dysgwyr Cymru mewn lleoliadau gwaith yn Ewrop ac rwy’n dymuno pob lwc i’r grŵp cyntaf o brentisiaid hyn gyda’u Sbaeneg!”
|
| |
Yr un â llun yn llwyddo |
Cafodd ffotograff gan un o fyfyrwyr hŷn Coleg Morgannwg ei dderbyn ar gyfer Cystadleuaeth Ffotograffiaeth Ryngwladol Abertawe – arddangosfa o gryn bwys lle mae’r gystadleuaeth yn un chwyrn a’r safonau’n uchel. Mae Alan Preece, 70 mlwydd oed, sy’n astudio dan Gareth Morgan ar gwrs Lefel A, wedi ffoli fod ei waith wedi cael ei dderbyn yn y gystadleuaeth. Fe ddarparodd y llun ar gyfer ei gwrs B Tech mewn ffotograffiaeth y llynedd.
 
|
| |
Myfyrwyr yn dangos eu talentau ar Lwyfan Byd Eang |
Canmolwyd myfyrwyr o Goleg Morgannwg am eu cyfraniad i lwyddiant seremoni agoriadol World Skills 2011 yn Llundain yn arena O2. Cystadleuaeth sgiliau fwya'r byd ydy hon. Y myfyrwyr gynlluniodd y dillad a chynorthwyo gyda'r dillad tu ôl y llwyfan.

Yn dilyn eu llwyddiant yng Ngwobrau Cymdeithas y Colegau (AoC) ar gyfer gradd Sylfaen Adeiladu, gwahoddwyd y myfyrwyr i gynllunio rhai o'r dillad ar gyfer y seremoni agoriadol pan fyddai'r DU yn cynnal y gystadleuaeth sgiliau fwyaf yn y byd.
Cynhaliwyd Worldskills ym mis Hydref 2011 lle gwelwyd y cannoedd o sgiliau sydd eu hangen i hybu menter ac adeiladu economïau. Mae'r gystadleuaeth, a ddenodd dros 150,000 o ymwelwyr, yn cael ei chynnal bob dwy flynedd ac yn dod â thros 1,000 o gystadleuwyr at ei gilydd o 50 o wledydd i gystadlu mewn 46 o wahanol sgiliau.

Dwedodd Emma Highgate, y tiwtor, "Roedd brwdfrydedd pob aelod o staff a phob myfyriwr a gymerodd ran yn heintus; roedd y myfyrwyr yn gyffrous iawn am y digwyddiad ac am y cyfle i arddangos sgiliau Cymru i'r byd."
|
|
| |
| Coleg Morgannwg yn dathlu graddio prentisiaid yn GE |
Yn ddiweddar, aeth Judith Evans, Pennaeth Coleg Morgannwg a chynrychiolwyr o'r coleg i GE Aviation Wales i gefnogi a chydnabod cyflawniadau prentisiaid y cwmni yn y seremoni raddio flynyddol.
Roedd Edwina Hart, y Gweinidog dros Fusnes, a chynrychiolwyr o Brifysgol Morgannwg ac EEF, sefydliad gwneuthurwyr gweithgynhyrchu'r DU, hefyd yno i weld 24 o brentisiaid ar raglen brentisiaeth GE Aviation Wales yn graddio.
Mae'r ffatri sydd wedi'i lleoli yn Nantgarw i'r Gogledd o Gaerdydd ac yn arbenigo mewn atgyweirio a chynnal a chadw peiriannau awyrennau ar safle o 1.2 miliwn troedfedd sgwâr ac yn cyflogi dros 1,200 o bobl ac mae 100 o'r rhain yn brentisiaid.

Fel rhan o gynllun prentisiaeth GE, mae'r cwmni'n gweithio mewn partneriaeth gyda Phrifysgol Morgannwg i gynorthwyo hyfforddiant prentisiaid yn y gweithle.
Dwedodd Adrian Button, Rheolwr Gyfarwyddwr GE Aviation Wales, "Mae ein rhaglen brentisiaeth yn gyfle i'n prentisiaid ifanc ennill cymwysterau academaidd a thechnegol. Fel cyflogwr pwysig yng Nghymru, rydyn ni'n falch o gynnig rhaglen wedi'i strwythuro a fydd yn helpu i barhau i ddatblygu gweithlu medrus yng Nghymru a chreu arweinwyr y dyfodol."
Drwy gydol y rhaglen dair blynedd, bydd prentisiad yn treulio amser ymhob maes o'r busnes er mwyn rhoi syniad iddyn nhw o sut mae'r cwmni'n gweithredu yn ogystal â datblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i gyflawni eu cymhwyster ffurfiol.
Dwedodd Edwina Hart, "Mae GE yn gwmni o'r radd flaenaf sydd angen gweithlu medrus i barhau i dyfu. Felly, mae ganddo raglen barhaus o ail- hyfforddi ac uwchraddio sgiliau'r gweithwyr i gydfynd â'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i gystadlu yn y farchnad fyd-eang sydd ohoni heddiw.
"Bydd y prentisiaid sy'n graddio wedi caffael sgiliau gwerthfawr i'w helpu i barhau â'u gyrfaoedd yn y diwydiant awyrofod a dw i'n dymuno'n dda iddyn nhw yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol."
Fel rhan o'u hyfforddiant, mae pob prentis yn cael cynnig cymryd rhan yn rhaglen Gwobr Dug Caeredin, rhaglen sy'n annog gwirfoddoli yn y gymuned, yn canolbwyntio ar feithrin tîm a chymeriad a hefyd datblygu'n gorfforol. Ar hyn o bryd, GE ydy'r unig gwmni yng Nghymru sy'n cynorthwyo prentisiaid drwy'r fenter hon. |
| |
| Gobaith i Goleg Morgannwg ennill anrhydedd |
Enwyd Coleg Morgannwg fel un o'r colegau addysg bellach mwyaf blaenllaw yn y DU ac mae ar restr fer am wobr genedlaethol bwysig.
Mae Coleg Morgannwg yn un o'r chwe choleg ar restr fer Gwobrau Addysg Bellach blynyddol cyntaf y Times Education Supplement (TES) am ei Arweinyddiaeth nodedig mewn Dysgu a Sgiliau.
Enillodd Coleg Morgannwg, sydd â champysau ar draws De Cymru, le ar y rhestr fer, yn curo cannoedd o ymgeiswyr a enwebwyd ar draws y DU. Nod y coleg ydy ennill gwobr genedlaethol am yr eildro eleni, yn dilyn ennill Gwobr Cymdeithas y Colegau ym mis Chwefror.
Mae'r coleg wedi ennill cydnabyddiaeth allanol sylweddol am ei gyfraniad i addysg bellach yng Nghymru a'r DU. Mae dros 10,000 o fyfyrwyr yn mynychu'r Coleg, ar gampysau Pontypridd, Aberdâr, Llwynypia a Nantgarw, ac yn astudio amrediad eang o gyrsiau o'r Gyfraith i Therapi Harddwch. Mae'r rhain i gyd yn agor y drws i addysg uwch.
Dwedodd Judith Evans, Pennaeth Coleg Morgannwg, "Mae pawb yn y coleg wrth eu bodd bod ein gwaith caled a'n hymroddiad i wella'r addysgu a'r dysgu wedi cael ei gydnabod ac mae cael ein rhoi ar y rhestr fer yn anrhydedd fawr. Rydyn ni'n edrych ymlaen at gael y canlyniadau ym mis Tachwedd ond, eisoes, mae bod ar y rhestr fer, gyda phum cystadleuydd cryf arall, yn gamp ynddi'i hun.
"Mae'r staff yma'n gweithio'n galed iawn i roi'r profiad gorau posibl i'n myfyrwyr a'u paratoi'n dda ar gyfer bywyd ar ôl coleg. Bydd ein campws newydd yn Nantgarw yn agor y flwyddyn nesaf a bydd hynny'n gwella profiad myfyrwyr hyd yn oed yn fwy.
"Mae'r gwobrau wedi disodli Gwobrau pwysig STAR, Gwasanaeth Gwella Dysgu a Sgiliau ond y gwasanaeth hwn sy'n dal i'w noddi.
Dwedodd Rob Wye, prif weithredwr y Gwasanaeth Gwella Dysgu a Sgiliau: "Mae gwaith mawr yn cael ei wneud bob dydd ar draws y sector i wella dysgu a sgiliau a thrwy hynny wneud bywyd yn well i ddysgwyr."
"Dylen ni ddathlu popeth sy'n cael ei wneud a diolch i'r bobl hynny sy'n ein helpu i wireddu ein nod o wella parhaus. Drwy adeiladu ar lwyddiant ein cynllun Gwobrwyo STAR ni, bydd Gwobrau TES yn sicrhau y gallwn, fel sector, barhau i gydnabod pob cyflawniad o'r fath."
Bydd y campws newydd sbon gwerth £40 miliwn yn Nantgarw yn agor ei ddrysau i fyfyrwyr fis Medi 2012. Bydd yn symud o safle bresennol y coleg yn Rhydyfelin a bydd yn darparu adnoddau heb eu hail ar gyfer dros 3,000 o fyfyrwyr a staff. |
| |
Coleg Morgannwg yn ennill ‘Marc’ Gyrfa Cymru |
Mae Coleg Morgannwg wedi derbyn Marc Gyrfa Cymru am ei ymroddiad i wella ansawdd yn barhaus ar gyfer y dysgwyr. Mae’r Marc wedi disodli Dyfarniad Ansawdd Gyrfa Cymru ac yn diwallu’n fwy penodol y gofynion a osodir gan Lywodraeth Cymru. Ac eithrio’r rhai fu’n rhan o’r cynllun peilot, Coleg Morgannwg ydy’r coleg cyntaf i dderbyn y Marc.
Cyflwynodd Ann Evans, Prif Weithredwraig Gyrfa Cymru, Morgannwg Ganol a Phowys, y wobr i Bennaeth y Coleg, Judith Evans, yn ystod cyfarfod amser cinio ym Mistro Milford, ar Gampws Pontypridd.

Dywedodd Ms Evans “Mae’n hyfryd cael dyfarnu’r wobr o Farc Gyrfa Cymru i Goleg Morgannwg. Cefais fy sicrhau gan fy nghydweithwyr bod y coleg a’r Gwasanaeth Gyrfaoedd wedi cydweithio mewn partneriaeth am flynyddoedd lawer. Dengys ennill y Marc eu hymroddiad i ddarparu cymorth ac arweiniad parhaus i’w dysgwyr ynglŷn â’u llwybr gyrfaol.”
Diolchodd y Pennaeth, Judith Evans, i Ms Evans am ymweld â’r coleg i gyflwyno’r wobr. Meddai hi, “Rwy’n falch iawn o dderbyn y wobr hon ar ran y coleg, gan ei fod yn cydnabod gwaith caled ac ymroddiad y staff a’r myfyrwyr. Mae darparu cyngor gyrfaol o’r radd flaenaf yn flaenoriaeth uchel yn y coleg a bydd y fframwaith hwn yn caniatáu i ni barhau i ddarparu cyngor gyrfaol o safon ardderchog, fydd o les i’n dysgwyr.” |
|
| |
|